Canlyniadau Chwilio - Aloni, Michael
Michael Aloni
Ganed Michael Aloni (Hebraeg: מיכאל אלוני; enw llawn Michael Mark Aloni, sillefir hefyd fel Alony) ar 30 Ionawr 1984) yn Tel Aviv, Israel. Mae'n actor, cyfarwyddwr a chyflwynydd teledu Israeli.Mae'n adnabyddus am chwarae un o'r brif rannau yn y gyfres ddrama am deulu Hasidig, ''Shtisel'', ac yn ''Out in the Dark'' ac un o'r brif rannau fel 'Himmler' yn y gyfres am griw o ffrindiau sy'n gyn-filwyr, ''When Heroes Fly'', a gynhyrchwyd gan Keshet Media Group. Yn Ebrill 2018 enillodd y gyfres y wobr 'Cyfres Orau' yn Canneseries ac mae wedi ei chomisiynu ar gyfer ail dymor. Mae Aloni hefyd yn cyflwyno'r gyfres realiti boblogaidd ar deledu,''The Voice ישראל (The Voice Israel)'' - cystadleuaeth ganu agored. Darparwyd gan Wikipedia