Canlyniadau Chwilio - Dylan, Bob
Bob Dylan
Canwr gwerin, bardd a chyfansoddwr o'r Unol Daleithiau (UDA) yw Bob Dylan (ganwyd 24 Mai 1941). Ei enw iawn yw Robert Allen Zimmerman. Ganwyd ef yn Duluth, Minnesota. Iddewon oedd ei rieni. Daw llawer o'r gwaith mwyaf nodedig o'r 1960au pan oedd yn gronicler, anfoddog i ddechrau, newidiadau cymdeithasol. Daeth nifer o'i ganeuon, megis "Blowin' in the Wind" a "The Times They Are a-Changin'," yn anthemau i Fudiad Hawliau Sifil America a'r ymgyrch yn erbyn Rhyfel Fietnam.Enwodd Bob Dylan ei hunan ar ôl Dylan Thomas. Mae Dylan wedi gwadu hyn sawl gwaith, ond cyfaddefodd yn ei hunangofiant yn 2001.
Enillodd Dylan Wobr Lenyddol Nobel yn 2016.
Ymddangosodd Bob Dylan yn Abertawe am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2025, yn 84 oed. Darparwyd gan Wikipedia