Canlyniadau Chwilio - Jones, Toby
Toby Jones
Actor o Loegr yw Toby Edward Heslewood Jones (ganwyd 7 Medi 1966). Fe'i ganwyd Hammersmith, Llundain, yn fab i'r actor Freddie Jones a'r actores Jennifer Jones (née Heslewood). Astudiodd ddrama ym Mhrifysgol Manceinion (1986–9) a L'École Internationale de Théâtre Jacques Lecoq, Paris (1989–91). Mae wedi cael gyrfa lewyrchus yn bennaf ym myd ffilm a theledu, ond hefyd yn cynnwys perfformiadau llwyfan a gafodd dderbyniad da.Mae wedi ymddangos mewn dros 80 o ffilmiau mawr, gan gynnwys rôl Truman Capote yn y ffilm fywgraffyddol ''Infamous'' (2006), a rhannau blaenllaw yn ''Berberian Sound Studio'' (2013), ''Dad's Army'' (2016) a ''Mr Burton'' (2025). Mae wedi ymgymryd â llawer o rolau pwysig mewn dramâu teledu, gan gynnwys Alfred Hitchcock yn ''The Girl'' (2012), Lance yn y gyfres gomedi ''Detectorists'' (2014–17), a'r is-bostfeistr Alan Bates yn ''Mr Bates vs The Post Office'' (2024). Darparwyd gan Wikipedia