Canlyniadau Chwilio - Moschus
Moschus
Bardd a gramadegydd yn yr oes Helenistaidd oedd Moschus (bl. 150 CC) sydd yn nodedig am ei fugeilgerddi chwebannog yn yr iaith Hen Roeg. Yn ôl traddodiad y gwyddoniadur Bysantaidd ''Suda'', Moschus yw'r ail o'r tri bardd bugeiliol, rhwng Theocritus a Bion.Ganed yn Sirako, Sisili, ac yn Alecsandria astudiodd dan y gramadegydd ac ysgolhaig Homeraidd Aristarchus o Samothrace. Yr unig weithiau ganddo yn sicr sydd yn goroesi yw tri dernyn o'r casgliad eidylaidd ''Bucolica'', y fugeilgerdd gyfan "Eros Drapetês", ac epigram serch sydd yn dychmygu'r duw Eros fel aradwr. Nid oes tystiolaeth o'i waith fel gramadegydd, ac eithrio cyfeiriad gan Athenaeus at waith ar bwnc geirfa Rodaidd gan un o'r enw Moschus.
Priodolir i Moschus, o bosib ar gam, yr arwrgerdd fach (neu ''epyllion'') ''Europa''. Mewn 166 o linellau, yn llawn delweddaeth grotésg ac iaith goch ond arddulliedig, mae'r gerdd hon yn traddodi chwedl y Dywysoges Ewropa o Ffenicia a'i chipio gan y duw Iau yn rhith tarw. Yn hanesyddol priodolir iddo hefyd yr ymgom ''Megara'', a ysgrifennwyd o bosib gan un o'i ddisgyblion, a'r alargerdd ''Epitaphios Bionos'', a briodolir bellach i un o ddisgyblion Eidalaidd Bion. Darparwyd gan Wikipedia