Arlunydd o Loegr yw Grayson Perry (ganwyd 24 Mawrth1960) sydd yn fwyaf adnabyddus am ei waith seramig a'i croes-wisgo. Mae'n gweithio gyda nifer o gyfryngau. Mae gan fasys Perry ffurfiau clasurol sydd wedi eu haddurno gyda lliwiau llachar, yn darlunio testunau sydd yn cyferbynnu â'u golwg atyniadol, h.y., camdriniaeth plant a sado-masochistiaeth. Mae elfen hunanfywgrafiadol gref yn ei waith, mae delweddau o Perry fel "Claire", ei alter-ego benywaidd, yn ymddangos yn aml. Enillodd y Wobr Turner yn 2003 am ei waith serameg, derbyniodd y wobr wedi ei wisgo fel Claire.
Darparwyd gan Wikipedia