Actor a chyfarwyddwr o'r Unol Daleithiau yw William George "Billy" Zane, Jr. (ganwyd 24 Chwefror1966). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Caledon Hockley yn y ffilm lwyddiannus o 1997 ''Titanic'', fel y gwallgofddyn Hughie Warriner yn ''Dead Calm'', John Justice Wheeler yn ''Twin Peaks'', ac fel The Phantom yn ffilm 1996 o'r un enw a oedd yn seiliedig ar yr arwr yn y llyfr comic. Erbyn 2009, roedd Zane wedi ymddangos mewn dros 50 ffilm a nifer o gyfresi teledu.
Darparwyd gan Wikipedia